Ond mae yna berygl o ormodedd o sachliain a lludw parthed ffigyrau'r cyfrifiad. Os ydym yn ddarogan gormod o wae yr ydym yn chware i ddwylo'r sawl sy'n casáu'r iaith, sy'n honni mae iaith ar ei wely angau efo DNR uwchben y glustog ydyw; y sawl sydd am gyfiawnhau gwario llai ar y Gymraeg gan fod llai yn ei ddefnyddio ac ati.
Mae yna ambell i linyn arian yn y ffigyrau.
Os yw'r Gymraeg yn dirywio ar y lefel y mae wedi dirywio ers cyfrifiad 1962 yr oedd Tynged yr Iaith yn cyfeirio ati – bydd yr Iaith Gymraeg yn fyw am o leiaf 300 mlynedd arall. Roedd Saunders yn ddarogan marwolaeth yr iaith erbyn dechrau'r unfed ganrif ar hugain. Dyma ni ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain! I ni yma o hyd ac mae'r iaith Gymraeg yn fyw!
Mae hanner miliwn o bobl yng Nghymru yn gallu'r Gymraeg, mae'n debyg bod nifer tebyg yn byw y tu allan i Gymru - mae miliwn o Gymreigwyr yn nifer helaeth o bobl. Dim ond ychydig yn llai o ran niferoedd (yn hytrach na chanran) na phan ofynnwyd y Cwestiwn iaith am y tro cyntaf ym 1891 a llawer mwy o ran niferoedd nag oedd o Gymry Cymraeg pan gynhaliwyd y cyfrifiad cyntaf ym 1801.
Mae un o bob pump o'r bobl yr ydych yn debyg o gwrdd ar y stryd, mewn siopau mewn unrhyw fan gymdeithasol yng Nghymru yn debygol o allu'r Gymraeg, mae'n dal yn werth chweil i ddechrau pob sgwrs yn y Gymraeg mewn pob sefyllfa. Cei ymateb cas "don't speak that language" weithiau; ceir yr ymddiheuriad "I'm sorry I don't speak Welsh" yn amlach, ond cewch eich siomi, unwaith allan o bob pump o'r ochor orau o glywed y gyrrwr bws, yr hogan wrth y til a hyd yn oed y gwerthwr tsips enwog yng Nghas-gwent yn ymateb trwy'r Gymraeg!

Hanner miliwn o Gymry tu allan i Gymru? Lle cest ti'r ffigwr yna?
ReplyDelete"Mae'n debyg" bod nifer tebyg yn byw y tu allan i Gymru meddwn i, nid ei fod yn ffaith ddiymwad bod hanner miliwn o siaradwyr y Gymraeg sy'n alltud. Does dim prawf o faint y Cymru ar wasgar sy'n dal i arddel y Gymraeg am wn i ond mae'r honiad bod cymaint o ddefnyddwyr yr iaith tu draw i ffiniau Cymru ag sydd oddi mewn i'w ffiniau yn un sydd wedi ei wnaed droeon ers dros ganrif a mwy.
DeleteMae Dafydd Wigley yn awgrymu hyd at 150,000 o siaradwyr Cymraeg yn Lloegr yn yr erthygl hon: http://www.english.plaidcymru.org/the-slate/2012/12/14/welsh-language-census-figures-reopen-our-perennial-debate/
DeleteYchwanega efallai 50,000 yng ngweddill y byd, ac efallai ceir cyfanswm o 700,000. Ond, dyma 700,000 sydd hefyd yn siarad ac yn defnyddio un o brif ieithoedd y byd yn feunyddiol. Mae môr o wahaniaeth rhwng "medru siarad" ac "yn siarad", yn anffodus.
150,000 yn swnio'n fwy realistig. Yn sicr, mae yna lawer - hyd y gwela i mae tua 1/3 o fy mlwyddyn ysgol (fe adawon ni yn 2006) bellach yn byw yn Lloegr - ond does modd bod cymaint a hanner miliwn.
DeleteCytuno'n llwyr Alwyn. Os yw'n dderbyniol (angenrheidiol?) bellach yng ngwyneb y pryderon cyhoeddus amlwg i Mr Milliband ddweud ei fod am weld gwell mesurau i sicrhau fod newydd-ddyfodiaid i Brydain am ddysgu'r Saesneg, nid oes gan Mr Jones unrhyw esgus foesol dros osgoi gwneud datganiad gyhoeddus agored a chall dros fesurau perthnasol parthed y Gymraeg yng Nghymru. Mae'n hen bryd i'r tabw ddiflannu. Mae'n hen bryd i weithredu. Dyma'r cyfle.
ReplyDeleteMae'n bosib bod ffigurau'r cyfrifiad yn rhy uchel unwaith eto, yn enwedig y ganran o bobl ifanc sy'n medru'r Gymraeg.
ReplyDeleteWelbru