Rwy'n siarad ar fy nghyfer yma am bwnc rwy'n gwybod dim yn ei gylch; ond ymysg y sôn am ddiffyg cyfryngau Cymreig a pherchnogaeth estron yr ychydig sydd; derbyniais gopi o'r North Wales Pioneer papur sy'n cael ei ddosbarthu yn y parthau hyn yn rhad ac am ddim i'r rhan fwyaf o dai.
Sut mae'r papurau 'ma 'n gweithio? A oes modd i genedlaetholwyr creu papurau tebyg trwy'r sustem cwmni cydweithredol mewn ardaloedd megis Wrecsam, Y Drenewydd ac ati lle nad yw'r achos cenedlaethol yn cael llawer o sylw?
Subscribe to:
Post Comments (Atom)

Mae gan gwmniau fel trinity mirror weisg anferth sy'n medru ar argraffu 30,000 mewn llai nac awr. Hysbysebion sy'n eu cynnal wrth reswm, does fawr ddim cynnwys golygyddol - cut and paste o chwaer bapur fel arfer. Mi fysa costau cychwynnol yn uchel iawn.
ReplyDeleteDyna oedd cynnig "Y Byd" wrth gynnig am y grant a aeth at golwg360, dwi'n credu - papur newydd rhad ac am ddim, rhywbeth tebyg i'r Metro, fyddai'n dibynnu ar elw hysbysebu am ei gynhaliaeth. Welais i erioed eu ffigyrau, ond wi'n credu mod i'n iawn i weud bod arbenigwr o ryw fath gyda nhw ynghlwm wrth eu cais. Fyddai wedi bod yn ddiddorol / cynhyrfus / siomedig (dilewch fel bo'n briodol) i weld datblygiad model o'r fath ar gyfer papur Cymraeg!
ReplyDelete